top of page

Grŵp Deddf

Y Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol

Y Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru yw prosiect mwyaf uchelgeisiol y grŵp hyd yma ac ni ellid fod wedi'i gyflawni heb gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

 

Yn ystod 2021 a dechrau 2022, aeth yr awdurdodau lleol sy'n aelodau o Grŵp Deddf ati i ddiwygio a diweddaru eu Strategaethau Iaith Gymraeg 5 mlynedd a'u Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.  Mae llawer o'r camau gweithredu a'r targedau sy'n ymwneud â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cynlluniau 5 mlynedd yn amlwg yn gysylltiedig â darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant  oedran ysgol ac oedolion, ac felly roedd angen cysylltiadau agos rhwng y ddau gynllun i sicrhau un broses a dim dyblygu.

 

Mae awdurdodau lleol Grŵp Deddf ar wahanol gamau yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg am nifer o resymau; ffigurau’r boblogaeth leol sy’n siarad Cymraeg presennol, lefelau hanesyddol y ddarpariaeth a hefyd ewyllys lleol a gwleidyddol (y mae'n rhaid cydnabod hynny), ynghyd â llu o ffactorau eraill, oll yn helpu i greu darlun gwahanol ar draws rhanbarth y grŵp.

 

Mae pob awdurdod lleol a’r Mentrau Iaith, ynghyd ag aelodau eraill o fforymau Cymraeg lleol megis yr Urdd, Rhieni dros Addysg Gymraeg a Mudiad Meithrin, wedi gweithio ar nifer o brosiectau hirdymor a byrdymor er mwyn hyrwyddo materion addysg cyfrwng Cymraeg, sydd er enghraifft wedi cynnwys:

  • Taflenni a llyfrynnau ar fanteision bod yn ddwyieithog

  • Rhannu negeseuon dros y cyfryngau cymdeithasol am ysgolion newydd, meithrinfeydd, gofal cofleidiol

  • Mynd ati i hyrwyddo ymgynghoriadau sydd ar y gweill ar gynigion ysgolion newydd

Er bod pob un o awdurdodau lleol cyfansoddol Grŵp Deddf, fel y nodwyd uchod, ar wahanol lefelau o ddarpariaeth, mae'r egwyddor sylfaenol a'r gwaith sydd eu hangen i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg fwy neu lai’r un fath, waeth beth fo'u lleoliad.

 

Gyda hynny mewn golwg, mae partneriaid wedi cytuno ar rôl Pencampwr Hyrwyddo Addysg Cyfrwng Cymraeg Rhanbarthol a phrosiectau cysylltiedig, ac ym mis Ionawr 2023, mae'r gwaith bellach wedi cychwyn. Mae'r rhestr o brosiectau y cytunwyd arnynt sydd ar y gweill i'w gweld yma, gyda'r rhai sydd yn y broses o gael eu comisiynu hefyd â PDF y prosiect i'w lawrlwytho er mwyn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r rhai sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais.

bottom of page