top of page

Grŵp Deddf

Rhestr o brosiectau sy'n cael eu comisiynu ar hyn o bryd neu sydd ar y gweill / wedi cael eu cyflwyno

Mae'r rhain yn brosiectau a fydd yn cefnogi gwaith y Pencampwr Hyrwyddo Rhanbarthol a'r partneriaid unigol.

 

Ni ellir defnyddio'r cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf na'i ddefnyddio fel arian grant ar gyfer prosiectau i sefydlu neu gefnogi’n uniongyrchol unrhyw fath o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac felly mae’r prosiectau hyd yn hyn yn ymwneud ag ymchwil a chasglu data, a chreu adnoddau. Mae'r prosiectau wedi cael eu trafod a'u cytuno gan y partneriaid, cyn cyhoeddi manylebau'r prosiect.

 

Mae gan bob prosiect rif cyfeirnod unigryw, ac mae'r wybodaeth isod yn dangos crynodeb o'r prosiectau a'u statws, fel y maent ar ddiwedd Gorffennaf 2023.

 

Mae Adran 1 yn dangos prosiectau sy'n cael eu comisiynu, lle nad yw'r dyddiad cau wedi mynd heibio eto; dangosir PDF y gellir ei lawrlwytho wrth ymyl prosiectau o'r fath, ar gyfer yr unigolion neu'r sefydliadau hynny a allai fod â diddordeb mewn cyflwyno cais.

Adran 1 - Prosiectau sy'n cael eu comisiynu
Prosiect PH004 – Fideos "Llais y Bobl"

Nod y prosiect hwn yw creu 10 fideo (hyd at 3 munud yr un) sydd yn dangos barn pobl leol (rhieni, cyn-ddisgyblion ac ati) o fuddion addysg ddwyieithog a balchder y rhieni neu lwyddiant y cyn-ddisgyblion o ran eu dewis. Bydd angen steil gyffredin rhwng y 10 o ran dyluniad.

 

Bydd rhaid cyflwyno’r fideos wedi’u is-deitlo yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn ffont addas ac yn weledol dderbyniol.Lle’n bosib gyda’r rhieni a’r cyn-ddisgyblion sy'n gallu, ac sy’n fodlon siarad Cymraeg ar ffilm, bydd yn rhaid iddynt gael eu ffilmio yn y ddwy iaith.

Statws: Yn cael ei baratoi.

Prosiect PH007 - Strategaeth Ymgysylltu a Marchnata Drafft

Nod y prosiect hwn yw hwyluso gwaith y Fforymau Addysg lleol a hybu addysg cyfrwng Cymraeg drwy greu adnodd i aelodau’r bartneriaeth ei berchnogi a phoblogi fesul ardal awdurdod lleol.  Rydym yn comisiynu Strategaeth Ddrafft, nid Strategaeth.  Bydd y Strategaeth Ddrafft yn cynnwys lle ar gyfer, esiampl/au o, a chyfarwyddiadau sut i fynd at i lunio holl elfennau Strategaeth Ymgysylltu a Marchnata, o’r weledigaeth i ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol.

 

Nod y Strategaethau Ymgysylltu a Marchnata Addysg Cyfrwng Cymraeg unwaith y maent wedi eu mabwysiadu’n lleol yw cael pobl i deimlo bod addysg cyfrwng Cymraeg yn addas iddyn nhw, ac yn ei ddewis.    

 

Bydd yr adnodd yn cael ei rannu gyda'r partneriaid ac yn cael ei roi yn unig adran y partneriaid ar wefan y Pencampwr Hyrwyddo Rhanbarthol. Gellir ei rhannu'n ehangach ymhlith ymarferwyr, ar lefel Cymru gyfan.  Ni fydd ar gael i'r cyhoedd.

Statws: Yn cael ei gomisiynu - Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 5:00pm ar 22 Awst 2023, a bydd y dyfarnu'n digwydd erbyn 31 Awst, 2023.

Adran 2 – Prosiectau sydd wedi'u comisiynu a / neu swydd wedi’u cyflwyno
Prosiect PH001 - Mapio'r Ddarpariaeth Bresennol

Er mwyn osgoi ail-greu prosiectau a dyblygu gwaith cyfredol, mae'r partneriaid yn dymuno comisiynu darn o ymchwil a fydd yn mapio’r ddarpariaeth bresennol o waith hyrwyddo o’r fath ar draws y rhanbarth dan sylw (gan ddarparwyr lleol, rhanbarthol neu genedlaethol).

 

Bydd disgwyl i’r unigolyn/sefydliad llwyddiannus gyflwyno adroddiad dwyieithog sydd wedi mapio cymaint â phosib o adnoddau sy’n hybu a hyrwyddo Addysg Gymraeg/Dwyieithog, a fydd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: darparwyr presennol, gwefannau, fideos, llyfrynnau gwybodaeth, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol (Facebook, Instagram, Twitter).

 

Statws: Yn cael ei wneud, yn fewnol o fewn y Bartneriaeth, gan y Pencampwr Hyrwyddo Rhanbarthol.

Prosiect PH002 - Adroddiad Cymharu Targedau Cynyddu Niferoedd

Mae'r partneriaid am gomisiynu darn o ymchwil a fydd yn creu proffil a chymhariaeth ar draws y rhanbarth dan sylw o dargedau pob awdurdod lleol i gynyddu'r niferoedd o blant sydd mewn addysg Gymraeg, gan gyfateb hynny yn erbyn y lefelau a adroddwyd mewn adroddiadau blynyddol ar hyn o bryd.

 

Bydd hyn yn darparu darlun a dealltwriaeth ranbarthol a thraws-ffiniol gliriach i'r Pencampwr a'r partneriaid, a darlun defnyddiol i Lywodraeth Cymru.

 

Bydd hefyd yn darparu data a fydd yn eu galluogi i holi pob Awdurdod Lleol am yr hyn sy'n digwydd, a'u cynlluniau ar gyfer cyrraedd eu targedau.

Statws: Yn cael ei wneud o fewn y bartneriaeth – dyddiad cyflwyno’r gwaith yw Medi 2023.

Prosiect PH003 - Creu 3 fideo animeiddiedig ar Godi Ymwybyddiaeth

Nod y prosiect hwn yw creu 2 fideo animeiddiedig (tua 4 munud yr un) sydd nid yn unig yn codi ymwybyddiaeth cynulleidfaoedd penodol (gweler isod) o ran buddion addysg ddwyieithog, ond sydd yn newid y sgwrs a chwalu mythau o ran beth yw addysg cyfrwng Cymraeg, a bod yn ddwyieithog yng Nghymru yn yr 21ain ganrif.

 

Bydd rhaid cyflwyno’r fideos wedi’u trosleisio yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac ag is-deitlau ieithyddol a gweledol addas.

 

Bydd angen i’r cymeriadau animeiddiedig hefyd fod ar gael ar gyfer prosiectau dilynol eraill, a bydd angen i’r fideos fod ar gael i’r partneriaid er mwyn eu trosleisio mewn i ieithoedd eraill yn ôl yr angen (ond bydd y gwaith trosleisio hynny’n destun prosiect arall i ddilyn).

 

Cynulleidfaoedd y 2 fideo hyn yw:

 

  • Sgript 1 - Cynghorwyr / Pwyllgorau Craffu Addysg / Uwch Swyddogion Addysg / Swyddogion Addysg sy’n delio a Derbyniadau Ysgol (i gynnwys eu dyletswyddau statudol ynghyd a’r buddion);

  • Sgript 2 - Penaethiaid a Rheini - fideo sy’n addas i’w ddefnyddio mewn cyfarfodydd pontio fel bod rhieni’n deall mewn ffordd gadarnhaol beth yw’r buddion i’w plant i barhau mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Statws: Comisiynwyd – cyflwynwyd i'r bartneriaeth ym mis Mawrth 2023.

Prosiect PH005 – Addysg cyfrwng Cymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol – Ymchwil ac Adnoddau

Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â'r cysylltiadau, y mythau a'r problemau sy'n gallu codi, ac sy’n codi, pan fydd addysg cyfrwng Cymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn croestorri. Felly, mae'r prosiect hwn wedi'i rannu'n nifer o is-adrannau rhyng-gysylltiedig, sy'n cael eu comisiynu er mwyn darparu'r Pencampwr Hyrwyddo Rhanbarthol a'r holl bartneriaid gydag ystod o ddata ac adnoddau ymchwil i fynd i'r afael â'r materion hyn.

 

Yn ddelfrydol, mae'r partneriaid yn dymuno i un sefydliad ymgymryd â'r gwaith fel bod dull ac arddull cyson yn cael ei gynnal drwyddi draw, fodd bynnag caiff ceisiadau ar y cyd eu hystyried lle mae gwahanol sgiliau'n cael eu darparu gan y gwahanol sefydliadau/unigolion (er enghraifft un yn darparu'r gwaith data/ymchwil ac un y gwaith fideo).

 

Statws:  Comisiynwyd ac ar y gweill - i’w gyflwyno’n gynnar yn nhymor yr Hydref 2023.

Prosiect PH006 – Addysg cyfrwng Cymraeg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol – Ymchwil ac Adnoddau

Mae'r prosiect hwn yn ymdrin â'r cysylltiadau, neu'r diffyg cysylltiadau, rhwng y cymunedau a theuluoedd lleiafrifoedd ethnig ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a darpariaeth a chyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg sy'n cwmpasu pob oedran, ond gan ganolbwyntio ar yr ystod oedran 3-16 oed.

 

Felly, mae'r prosiect PH006 hwn wedi'i rannu'n nifer o is-adrannau rhyng-gysylltiedig, sy'n cael eu comisiynu er mwyn darparu'r Pencampwr Hyrwyddo Rhanbarthol a'r holl bartneriaid gydag ystod o ddata ac adnoddau ymchwil i fynd i'r afael â'r materion hyn fel y nodwyd.

Statws: Comisiynwyd ac ar y gweill - i’w gyflwyno’n gynnar yn nhymor yr Hydref 2023.

bottom of page