top of page

Grŵp Deddf

Cymraeg i Bawb – partneriaeth ranbarthol a chenedlaethol

Mae Cymraeg i Bawb yn ymgyrch i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, dan arweiniad Partneriaeth Hybu Addysg Cyfrwng Cymraeg De-ddwyrain Cymru. 

Nod y bartneriaeth yw creu Cymru lle mae pawb yn rhydd i ddysgu a siarad Cymraeg.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys Awdurdodau Lleol (swyddogion iaith Gymraeg a swyddogion addysg sy'n gyfrifol am y CSCAu), y Mentrau Iaith, RhAG a Llywodraeth Cymru, ynghyd â sefydliadau eraill fel Mudiad Meithrin, Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Cwmni2. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r prosiect yn uniongyrchol, ac mae'r holl bartneriaid yn cyfrannu mewn da, gyda chyllid ychwanegol i'r prosiect yn dod o wahanol geisiadau grant.

 

Cychwynnwyd y prosiect gan Grŵp Deddf oherwydd bod y partneriaid yn deall y gall hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg elwa'n aruthrol drwy weithio gyda'i gilydd. 

 

Dechreuodd yn Ne-ddwyrain Cymru ac mae'n parhau i weithio yn y rhanbarth, ond ers 2025 mae wedi ehangu'n genedlaethol o dan gyfrifoldeb Mentrau Iaith Cymru.

www.png
facebook.png
instagram.png

© 2025 Grŵp Deddf

bottom of page