top of page

Grŵp Deddf
Yr Iaith Gymraeg a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhestru saith nod ar gyfer lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Maent yn cynnwys sicrhau 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'.
Fodd bynnag, mae ystyriaethau Cymraeg ym mhob un o'r 6 nod arall, fel y dangosir gan yr "olwyn lesiant" wedi'i addasu (gweler isod), a gyhoeddwyd gyntaf yng nghyhoeddiad Comisiynydd y Gymraeg yn 2018 "Strategaethau 5 mlynedd: canllaw arfer da i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol" (Atodiad 6).
I lawrlwytho’r ddelwedd, de-gliciwch arni ac yna arbedwch y ffeil i’ch dyfais

bottom of page